I gofio am y pethau angofiedig
Cofio - gan Waldo Williams - Clicia ->
1a: Un funud fach cyn elo'r haul i'w orwel,
1b: Un funud fwyn cyn delo'r hwyr i'w hynt,
*2a: I gofio am y pethau angofiedig
2b: Ar goll yn awr yn llwch yr amser gynt.
3a: Fel ewyn ton a dyr ar draethell unig,
3b: Fel can y gwynt lle nad oes glust a glyw,
4a: Mi wn eu bod yn galw'n ofer arnom,
4b: Hen bethau angofiedig dynol ryw.
5a: Camp a chelfyddyd y cenhedloedd cynnar,
5b: Anheddau bychain a neuaddau mawr,
6a: Y chwedlau cain a chwalwyd ers canrifoedd,
6b: Y duwiau na wyr neb amdanynt 'nawr.