Hanes Cymru, A History of Wales in Welsh - John Davies (Hammondsmith: Penguin Books, 1990: 87)

treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)

testunau eraill / other texts


Credid gynt bod amaethyddiaeth y Gymru gynnar yn1 gyntefig iawn. Haerwyd na thyfid odid ddim cnydau, mai eithriad oedd anheddfa sefydlog ac mai bugeiliaid crwydrol oedd trwch y boblogaeth. Bellach cefnwyd ar y damcaniaethau hyn. Cydnabyddir bod elfan fudol yn y gymdeithas, oherwydd unid y mynydd a'r gwastatir mewn un economi gydlynol, a symudai cyfran o'r boblogaeth gyda'u hanifeiliaid o'r hendref i'r hafod ddechrau'r haf.