treigladau / mutations
Yn y dref roedd pethau'n2 fywiog. Rhedai'r bobl yn2 ôl ac ymlaen, a'u
trwynau'n2 goch a'u llygaid yn1 disgleirio yn yr oerni. Daw'r eira cyn y
bore, meddai'r naill wrth y llall, gan ( )wrando ar ddolefiad y gwynt a chofio'r
gaeaf rhewllyd chwe blynedd ynghynt. Dyna (  )aeaf oedd hwnnw. Rhewodd afon
Wnion o un pen i'r llall am y tro cyntaf yn ei hanes. Daeth y si fod afon
Tafwys yn Llundain wedi rhewi mor galed fel y1 gellid codi stondinau arni i ( )werthi cnau castan poeth i'r rhai oedd yn1 sglefrio arni. Ym mhlwyf Tal-y-bont
a Phenllyn rhewodd yr hen bobl a'r plant bach i farwolaeth a daeth y llwynogod
i lawr o'r Gader i'r dref i chwilio am fwyd. Na ato Duw i'r fath ( )aeaf
ddychwelyd eleni.
Rhedodd y dynion i'r tafarnau i'w cynhesu eu hunain efo cwrw a medd.
Rhedodd y merched o'r naill dy i'r llall i baratoi ar gyfer y cymhorthfa a1
gynhelid heno ym Mhlas-gwyn i helpu gweddw Guto Pandy. Trotiodd Barnabas a
Ned drwy'r cyfan yn2 ddidaro, a buan iawn yr1 oedd gwr a gwraig Bryn-mawr yr
ochr draw i'r Bont Fawr ar eu ffordd i'r Hengwrt.
Croesawyd y ddau gan ( )oleuadau llachar y siandeliriau yn neuadd yr
Hengwrt. Agorwyd y drws mawr allanol iddynt gan ( )was mewn lifrai ysblennydd.
Ar ( )waelod y grisiau derw llydan safai Hywel Vaughan a'i ( )wraig Lowri. Dalai
Meg ei hanadl mewn rhyfeddod at yr ( )olygfa.
(frâm ar wahan / separate frame)
testunau eraill /
other texts