"Wyn Bach Iesu  Grist" - Plant Pobl Eraill, Steve Eaves (Angst 014)

treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)

testunau eraill / other texts


Bob hyn a hyn dw i1'n1 cofio geiria' 'Rhen Elis
wrth hel y gwydrau yn y Ship amser cau:
"mae'n3 cyrff ni i  gyd fel temlau i'r Iachawdur
mae bywyd yn2 rhodd  fwy gwerthfawr nag aur...


"Ond mwya'n y byd wyt ti'n1 cerdded y strydoedd hyn." medda' fo
"mwya'n y byd o  faw  fydd yn1 maeddu dy sgidia' di,
a'r unig  ddewis pan ti'n1 disgyn i  lawr i'r gwaelod
ydi un ai troi'n2 lleidr - neu sleifio yn y baw fel neidr."


Roedd 'na adeg roedd dy chwaer  di a  finna'
yn2 agos iawn, - wel, eniwê anghofia hynna -
be 'di'r iws imi  bendroni a hel meddylia?
- dw i1'n1 trio madda' i  bawb sy'n1 madda' i minnau.


Mi ( _ )welis hi  ddoe yn1 stryffaglio hefo'r  goets
o  gwmpas ' dre 'ma yn y glaw oer
a'i mascara yn1 powlio i  lawr ei gruddia'
- stwffio'r dymi yng  ngheg y bychan
i  roi taw ar y blydi swnian...


" Fedra' i1 ddim byw yn'u stafell ffrynt nhw o hyd," meddai hi,
"efo mam Gwynfor yn1 malu awyr  drwy'r dydd -
dw i1 isio lle inni'n4 hunain, imi  gael gwrando Hefi Metal
- dw i1'm isio mwy o  gardod gan y petha' i  lawr yn y sosial..."


'Piti na ' fasa' petha' fel y1 mae 'nhw ar y teli
- cegin  fawr yn1 sgleinio, a'r plant yn1 chwarae ar y patio
- un  frawdoliaeth  fawr o  bob lliw a  phob hil
 law yn llaw mewn cae, yn1 canu am Coca Cola...


Cytgan 1, 2 ,3:

Wyn bach Iesu  Grist
ydan ni i  gyd
Wyn bach Iesu  Grist


Wyn bach Iesu  Grist
ydan ni i  gyd
Wyn bach Iesu  Grist


Y petha' bach melyn
a'r plant bach du
Les a Jackie a chdi a fi...
Wyn bach Iesu  Grist,
dyna ydan ni i  gyd.




nodiadau:

yn1 / 'n1
gn.  particle before verbs (no mutation)
yn2 / 'n2
(+tm.)  gn.  particle before adjectives, adverbs and nouns
yn3 / 'n3
rh.  ein ( our )
yn4 / 'n4
(+ttr.)  rh.  fy ( my )