treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)
testunau eraill /
other texts
Bu'n1 smwcian bwrw drwy'r dydd, ond nawr roedd hi wedi stopio. Roedd y ffordd a phennau'r tai yn1 dal yn2 ( )wlyb yng ngolau'r lleuad. Penderfynodd Miriam fynd am dro ar draws y caeau. Ac er ei1 bod yn2 noson ( )olau leuad, doedd arni ddim ofn er gwaethaf rhybuddion Dewyrth Harri ers talwm. Roedd hi'n2 hoff iawn o'r lleuad, a byddai'n2 ei1 gwylio o'i gwely yn1 dringo dros
y nen, a'r ( )wlad i gyd o dan ei hud.
Dilynodd y llwybrau troed drwy'r giatau mochyn, a'i sgidiau wrth iddyn nhw suddo'n y llaid yn2 swish-swishian. Rhedai defaid ac wyn o'i ffordd wrth ei1 chlywed yn1 dod. Ac unwaith dychrynwyd hi gan drwst yn y drysni. Hen ddafad oedd yno wedi mynd yn2 sownd gerfydd ei gwlan yn y mieri.
Penderfynodd mai'r peth gorau i'w ( )wneud fyddai gadael y ddafad i gymryd ei siawns. Ond yn y diwedd aeth brefiadau dolefus y ddafad yn2 drech na hi, a nesaodd ati yn2 betrusgar. Roedd diffyg ymddiriedaeth o'r ddwy ochor. Ond wedi'r strancio a'r ymdrechion trwsgwl rhedodd y ddafad yn2 rhydd i chwilio am ei phraidd.
Yng ngolau'r lloer gwelodd Miriam y gwaed ar ei dwylo a'r drain yn1 pigo o dan y cnawd. Ond bu'r digwyddiad yn2 help iddi droi ei meddwl oddi ar Beth a thrafferthion gwarchod, at bethau uwch. Eissioes roedd hi'n1 meddwl1 am y traethawd a1 sgwennai i Miss B. Pritchard.
"Sylwch ar y petha bychain," meddai hi yn ei llais coeth, "nhw sy'n1 rhoi i natur a phobol eu harbenigrwydd. Y petha bychain sy'n1 glynu yn y co."