"Rhydcymerau" - Eples,  David James (Gwenallt) Jones  (Llandysul: 1951)

treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)

testunau eraill / other texts


Plannwyd egin coed y trydydd rhyfel
Ar dir Esgeir-ceir a meysydd Tir-bach
Ger Rhydcymerau.

'Rwy'n1 cofio am fy mam-gu yn Esgeir-ceir
Yn eistedd wrth y tân ac yn1 pletio ei ffedog;
Croen ei hwyneb mor  felynsych â llawysgrif Peniarth,
A'r  Gymraeg ar ei gwefusau oedrannus yn2  Gymraeg
  Pantycelyn.
Darn o  Gymru Biwritanaidd y ganrif  ddiwethaf
  ydoedd hi.
'R1 oedd fy  nhad-cu, er na ( _ )welais ef erioed,
Yn2 "  gymeriad"; creadur bach, byw, dygn, herciog,
Ac yn2 hoff o'i1  beint;
Crwydryn o'r  ddeunawfed  ganrif ydoedd ef.
Codasant naw o  blant,
Beirdd, blaenoriaid ac athrawon Ysgol Sul,
Arweinwyr yn eu cylchoedd bychain.


Fy Nwncwl Dafydd oedd yn1 ffermio Tir-bach,
Bardd gwlad a rhigymwr bro,
Ac yr1 oedd ei1  gân i'r ceiliog bach yn2 enwog
  yn y cylch:
"Y ceiliog bach yn1 crafu
  Pen-hyn, pen-draw i'r ( _ )ardd".
Ato ef yr1 awn ar ( _ )wyliau haf
I  fugeilio defaid ac i  lunio llinellau cynghanedd,
Englynion a  phenillion wyth llinell ar y mesur wyth
  -saith.
Cododd yntau wyth o  blant,
A'r mab hynaf yn2 ( _ )weinidog gyda'r Methodistiaid
  Calfinaidd,
Ac yr1 oedd yntau yn1 barddoni,
'R1 oedd yn ein tylwyth ni nythaid o  feirdd.


Ac erbyn hyn nid oes yno ond coed,
A'u gwreiddiau haerllug yn1 sugno'r hen  bridd:
Coed lle y bu cymdogaeth,
Fforest lle bu ffermydd,
Bratiaith Saeson y De lle bu barddoni a diwinydda,
Cyfarth cadnoid lle bu cri plant ac wyn.
Ac yn y tywyllwch yn ei  chanol hi
Y mae ffau'r Minotawros Seisnig;
Ac ar  golfennau, fel ar  groesau,
Ysgerbydau beirdd, blaenoriaid, gweinidogion ac
   athrawon Ysgol Sul
Yn1 gwynnu yn yr haul,
Ac yn1 cael eu golchi gan y glaw a'u sychu gan y gwynt.





nodiadau:

ei
rh. (+ tll. genidol/possessive before feminine nouns/ h before words beginning in vowels)    her, its
ei1 / 'i1
rh. (+ tm. genidol/possessive before masculine nouns)      his, its
y1/ yr1 / 'r1
gp.  pre-verbal particle introducing present tense of bod (mae) or a noun clause
yn1 / 'n1
gn.  before verbs (no mutation)
yn2 / 'n2
(+tm.)  gn.  before adjectives, adverbs and nouns