treigladau / mutations
"Dyma iti'r ( )olygfa ora' yn Sir Gaernarfon, am ( )wn i, Owen," meddai ymhen ennyd. "Yr hen ( )Wyddfa a'r clogwyni o'i chwmpas hi; un, dau, tri llyn yn1 'sgleinio fel gwydra' yn yr haul; hanner dwsin o nentydd yn1 hongian yn2 ( )wyn ar y llethra' acw; a draw i'r dde caea' ac afonydd yn1 llithro i lawr tuag Afon Menai ... Ia ... Ia ... Uchel yw dy ddeheulaw*..." Ac ysgydwodd yr hen flaenor ei ben yn2 ddwys. "Ia, Lias Tomos, ia, yn2 ( )wir," meddai Huw Jones, gan swnio bron yn2 bregethwrol. "Chafodd O ddim llawar o hwyl ar y fargan 'na sy gynnoch chi, Lias Tomos," oedd sylw amharchus George Hobley. "Gwnithfaen bron i gyd, yntê?" "Mae 'na dda a drwg mewn craig fel mewn pobol, George, 'machgen i," atebodd y blaenor yn2 dawel, "oes, mae 'na ( )wnithfaen yng nghalon y ddau weithia', ( )wel'di."
(frâm ar wahan / separate frame)
testunau eraill /
other texts
*Salm 89.13: "Y1 mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw."