treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)
testunau eraill /
other texts
Ni bu'r ddwy flynedd wedyn yn2 gwbl drist. Clafychai ei mam yn2 gyflym fel na ( _ )allai mwyach
symud o'r gwely. Bu ei hystafell yn2 ddinas noddfa i'w merch. Ni ddywedai'r un o'r ddwy ei
chalon wrth y llall, ond tyfodd rhyngddynt cyn y terfyn fath o gyd-ddeall a chydymdeimlo
mud. Ni lawenhâi y fam o edrych ar Fonica fel y1 gwnâi pan ddeuai Hannah ati. Ond yn
nyfnder ei hymwybod fe glywai led-sibrwd mai ei hafiechyd ei hun a1 achosodd ran o leiaf o
glwyf ysbryd ei merch hynaf, ac felly rhoddai tosturio wrth Fonica yr un diddanwch moethus
iddi ag a1 gâi drwy dosturio wrthi ei hunan. Cawsant ambell hanner awr ddifyr gyda'i1 gilydd
tra darllenai Monica gyfran y dydd o nofel y Daily Mail i'w mam. Prydiau eraill eisteddai'r
ferch ger y ffenestr a disgrifiai'r bobl a ( _ )welai'n1 tramwy i mewn ac allan o'r siop. Caent hwyl
yn1 dyfalu eu negesau, yna galwent ar Hannah neu'i thad i gywiro'r dyfaliadau. Bu Monica yn
nyrs dda y misoedd hyn. Cyflawni ei gorchwylion â dwylo anghrynedig, hamddenol a1
esmwythâi boen. Yr oedd ei meddwl yn2 llawn pethau eraill, ac felly ni ddychrynai mewn
creisis a gweinyddai yn2 bwyllog a dibryder. Deallai ei mam ac ni ddigiai.
Unwaith, rhyw dair wythnos cyn ei marw, ceisiodd Mrs. Sheriff gael gan Fonica ddweud ei chyfrinach wrthi. Gwelsai hi yn1 eistedd wrth y ffenestr, y papur newydd ar ei glin a'r stori wedi dyfod i ben y dydd hwnnw. Peidiasai Monica â'r darllen ac ar ôl y frawddeg olaf syllodd am funudau lawer ar y stryd islaw. Galwodd ei mam hi at y gwely:
"Paid â chychwyn y stori newydd yfory."
"O'r gorau, mam."
"Mi1 fyddaf yn1 ofni amdanit ti, ' ngeneth i1. Mae gan dy dad ei1 fusnes, ac fe brioda Hannah. Y1 mae hi'n2 ifanc ac wedi ei gwneud i fod yn2 ddedwydd."
"Oni _allaf innau fod yn2 ddedwydd?"
Ysgwydodd y fam ei phen yn2 hir. Yna dywedodd:
"Fe gefaist drwbl gyda llanc ryw ddwy flynedd yn2 ôl?"
Gwelwodd Monica:
"Sut y1 gwyddoch chi?"
"Mi1 ( _ )wn. Dywed i mi dy boen. Yr1 wyf yn1 mynd i farw yn2 nawr. Bydd dy gyfrinach yn2 ddiogel."
"Does gen' i1 ddim i'w ddweud."
Ond cusanodd ei mam y tro cyntaf ers blynydoedd ac aeth i baratoi te. Mis wedi hynny yr1 oedd y gwely yn2 _wag, a'r poteli ffisig, a1 fuasai ar y bwrdd er pan gofiai, wedi diflannu o'r ystafell.
nodiadau: