treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)
testunau eraill /
other texts
Mae'r bws yn1 dringo rhiw serth, y periant yn1 cwyno a'r bws fel pe bai'n2 grindod trwyddo. Egyr yr hen ( )wraig ei llygaid unwaith eto. Teimla fel un wedi'i dadleoli, rhwng dau le a rhwng dau fyd, rhwng heddiw a ddoe, rhwng y byw a'r meirw. Pa mor bell, meddylia, sydd 'da hi i fynd eto? Er ei bod mor gyfarwydd a'r ffordd ymddengys darnau ohoni'n2 ddiethr iddi bob tro. Sylweddola'n2 nawr fod y bws yn1 mynd dros y mynydd o'r naill gwm i'r llall. Mae'r ffordd yn2 droellog am dipyn, felly er bod
yr ( )olwg ar y mynyddoedd o'i chwmpas yn2 ( )ogoneddus bydd symudiad y bws yn1 hela hi i deimlo'n2 dost. Mae hi'n1 agor ei bag siopa ac yn1 tyrchu i'r gwaelod nes iddi ddod o hyd i becyn o losins caled; mae Edwart yn1 licio'r losins hyn a dyna pam mae hi'n1 mynd â phecyn mawr bob tro y1 bydd hi'n1 mynd i'w ( )weld. Dyw Edwart, serch hynny, byth yn1 llwyddo i'w bwyta nhw i gyd, felly mae Gwen yn1 gorfod cadw'r rhai sydd dros ben. Dyw Edwart ddim yn1 gallu mynd â nhw lan i'r ward gan fod pobl eraill yn1 eu dwyn oddi arno, meddai e. Gwyr Gwen eu bod nhw'n2 bethau da i'w sugno pan fydd hi'n1 teimlo'n2 dost ar y bws.
Mae llai o bobl ar y bws erbyn hyn, ond wrth iddo fynd drwy'r cwm nesaf fe fydd y seddau'n1 llenwi'n2 gyflym unwaith eto.
Mae'r ( )wlad y1 mae'r bws yn1 mynd trwyddi'n2 ddarn o dir sydd yn2 hollol ( )wyllt ac agored heb yr un ty na'r un adeilad o fewn golwg ac eithrio hen adfeilion lawr i'r chwith. Does neb wedi byw yno o fewn ei chof hi. Mae hi'n1 ceisio meddwl am bobl yn1 byw yno, fwy na chanrif yn2 ôl efallai. Tyddyn hollol hunangynhaliol, cyn i'r term hwnnw ddod i ( )olygu unrhywbeth anghyffredin. Dychmyga'r gwr a'r ( )wraig ifanc newydd briodi yn1 symud yno ac yn1 edrych o'u
cwmpas ar y tir caled anobeithiol. Mae'r bws yn1 troi'r gornel a ( )wele'r d>re fodern nesaf islaw yn y cwm. Diflanna'r hen adfeilion yn y pellter.
nodiadau: