treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)
testunau eraill /
other texts
LLUN 2 Medi
Ysgol fory. Dosbarth Pedwar. Wy'n1 cyflawni hunan-laddiad heno.
MAWRTH 3 Medi
Fel ych chi'n1 gweld, wy' dal 'ma. Nid bod ysgol wedi gwella. Gwa'th os rhywbeth. A wy'n2 hollol siwr 'mod i wedi dewis y pyncie TGAU anghywir, ond ( _ )weda i1 ddim wrthyn "nhw", achos dyn a1 ( _ )wyr, bydde'r dannod "( _ )wedes i1 ddicon" yn1 'y ngwthio i lyncu'r Domestos.
Na, yr unig reswm wy' dal 'ma'n1 sgrifennu'r cach 'ma yw dwy' ddim yn ca'l 'y nysgu 'da
"gwrandwch arna i1, dwy' ddim 'ma i fod yn1 gocyn hitio i neb; bues i1'n y coleg am dair blynedd". "Cwd haf ffwld mi1" yntê byti!!
GWENER 6 Medi
Ma' Drama'n2 o1 cê ar y funud, dim gwaith ysgrifennu, dim ond y pocsi Ffolio, ond ma' Maths a'r pethe borin Cwricwlwm Cenedlaethol erill, neu'r CACAS fel yn ni'n1 eu galw nhw, yn2 anhygoel o brainwashin'.
Ma' Llinos yn y grwp Drama. God, mae hi mor lyfli, wy'n1 mynd i ga'l y gyts i ( _ )ofyn iddi
ddod mas 'da fi cyn diwedd wythnos nesa ... wedi ailystyried hwnna, wy'n1 addo i'n3 hunan y1 gofynna i1 iddi cyn i fi ( _ )orffen yn yr ysgol. Ie, nabod fi, dwy eiliad cyn i fi ( _ )orffen, so os ( _ )wediff hi "na" galla i1 ddianc ar y bys heb fecso 'mod i1 wedi neud1 twat o'n3 hunan. A dyw e ddim ' mod i1'n2 hyll, sa i1'n1 credu.
O1 cê, sbots, ond ma' sbots 'da pawb yn Nosbarth Pedwar - o2 na, do's dim 'da Rhydderch Llyr ap Gwynfor ap Llywelyn "lwc at mei biwtiffwl ffês" Edwards. Os yw ei frein e gymaint o seis â'i enw, nage coleg bydd e moyn ond Tardis i fynd â fe i barthau na fu bod dynol yno o'r blaen.
Shytyp, Rhys. Ble o'n i1? - o2 ie, sbots a Llinos - edrychodd hi arni i1 yn y ( _ )wers Ddrama, ac ath popeth yn feddal...
nodiadau: