Un Nos Ola Leuad (One Moonlit Night) - Caradog Prichard
Caernarfon: Gwasg Gwalia, 1988: 61-2 (Hughes, 1961)

treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)

testunau eraill / other texts


     Gweld llygaid Mam yn2 goch bora drannoeth (  )wnaeth imi gofio bod hi'n1 Ddy Gwenar Groglith pan ddeffrois i2. Sôn am ddigalon, dyna'r diwrnod mwya digalon ydw i'n1 cofio rioed, tan amsar te beth bynnag. Ac wedyn ar ôl amsar te doedd yna neb i ddwad allan i chwara, achos oedd Huw wedi mynd i ffwrdd efo'i1 Fam i rywla, a Moi yn i1 (  )wely wedi cael annwyd.

     Mi es i2 i hel pricia i Mam i Coed Tu Ôl i Rardd ar ôl brecwast ac roedd gen i2 gur yn y mhen hyd yn oed 'radag honno. Roedd Mam wedi deud imi gofio dwad yn2 ôl yn2 fuan i (  )warchod ty iddi hi gael mynd i Reglwys erbyn hannar dydd....

     Pam ydach chi'n mynd i Reglwys am hannar dydd, meddwn i2 wrthi hi 'radag honno?

     Am mai hannar dydd ddaru nhw groeshoelio Iesu Grist, medda hitha.

     Roeddwn i2 wedi dysgu'r hanas yn Rysgol Sul am Iesu Grist yn1 cael ei1 groeshoelio, ond doedd o ddim yn1 swnio'r un fath pan oedd Mam yn1 deud yr hanas.

     Pam rydach chi'n1 aros tan ar ôl tri?

     Diodda hefo Fo, medda hitha. Mi gymerodd O dair awr i farw wsti, ar ôl iddyn nhw gnocio hoelion efo morthwyl i mewn i'w ddwylo a'i1 draed O.

     Esgob, naddo. Deud celwydd ydach chi.

     Naci wir.

     Oes eisio imi ddwad hefo chi i Reglwys i ddiodda?

     Nac oes ynghyw i2, rwyt ti'n2 rhy ifanc eto. Ddim tan ar ôl iti gael dy gonffyrmio.

     Be fyddwch chi'n neud i ddiodda am dair awr yno, Mam? Canu salma?

     Naci. Deud salma. Fydd neb yn1 canu ar Ddy Gwenar Groglith, siwr. Neb ond yr hen Gapelwrs yna.

     Wnes i2 ddim gofyn dim byd arall iddi hi a ddaru hitha ddim deud dim byd arall wrtha i.

     Ond bob Dy Gwennar Groglith wedyn, am yn2 hir, mi fyddwn i'n1 stopio'n2 stond lle bynnag y1 byddwn i2 pan fydda hi'n1 saethu hannar dydd yn Chwaral, a dechra meddwl amdanyn nhw'n1 cnocio'r hoelan gynta i mewn i'w law O hefo morthwyl, dau ohonyn nhw ar ben dwy ysgol, un yn1 dal ei fraich O a'r llall yn1 cnocio'r hoelan.