"Yr Esgyrn Hyn" - Cerddi, T. H. Parry-Williams (Llandysul, 1931)

treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)

testunau eraill / other texts


1

Beth ydwyt ti a minnau,  frawd,
Ond swp o esgyrn mewn gwisg o  gnawd?

Gwêl d'anfarwoldeb yng  ngwynder noeth
Ysgerbwd y  ddafad wrth  Gorlan Rhos  Boeth;

A'r cnawd a'r gïau a  fu iddi  gynt,
Yn2  bydredd ar  goll yn y bedwar gwynt,

Heb  ddim i  ddywedyd pwy oedd hi
Ond ffrâm ( _ )osgeiddig nad edwyn gi.

2

Beth  byddi  dithau,  ferch, a myfi,
Pan  gilio'r cnawd o'r hyn ydym ni?

Diffydd y nwyd pan ffero'r gwaed,
Derfydd am siom a serch a sarhaed.

Ni bydd na  chyffwrdd na  chanfod mwy:
Pan  fadro'r nerfau, ni  theimlir clwy.

Ac ni bydd breuddwyd na  chyffro cân
Mewn penglog  lygadrwth a'i1  chraciau mân.

Nid erys dim o'r hyn wyt i mi--
Dim ond dy  ddannedd gwynion  di.

3

Ni bydd ohonom ar ôl yn y byd
Ond asgwrn ac asgwrn ac asgwrn mud;

Dau  bentwr bach dan chwerthinog ne',
Mewn gorffwys di-gnawd, heb na bw na be.

Nid ydym ond esgyrn. Chwardd oni  ddêl
Dy  ddannedd i'r golwg o'u cuddfa  gêl.

Chwardd. Wedi'r chwerthin, ni bydd, cyn bo hir,
Ond d'esgyrn yn1 aros ar ôl yn y tir--

Asgwrn ac asgwrn,  forwynig ( _ )wen,
A  chudyll a  chigfran uwch dy  ben;

Heb neb yn1 gofyn i'r pedwar gwynt:
"P'le mae'r storm o  gnawd a  fu iddi gynt?"




nodiadau:

i1  [ ei ]
rh. (+ tll. genidol/possessive before feminine nouns)    her, its
yn1
gn.  particle before verbs (no mutation)
yn2
(+tm.)  gn.  particle before adjectives, adverbs and nouns