treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)
testunau eraill /
other texts
Yn ôl ei chadair mae'n1 cau ei llygaid rhag gweld dim. Ond mae popeth i'w glywed yn2 glir.
Clyw fwrlwm bywyd y1 tu draw i'r ffenest.
Clyw ddicter pryfed ar y ffenest.
Clyw guriad ei chalon yn ei chlustiau yn1 cystadlu â swn traed yn1 dringo'r grisiau, yn1 cerdded at ei drws, yn1 oedi ... Ac yna'n1 symud ymlaen gam neu ddau. Clyw swn cnocio, llais yn1 ateb, drws yn1 agor ac yn1 cau. Swn siarad, chwerthin, gwydrau yn2 tincial - swn cwmnïaeth...
Swn caru cynyddol. Swn rhyw. Swn ecstasi.
Ac yna swn tawelwch...
Drws yn agor ac yn1 cau, traed ar y grisiau, drws y stryd yn1 cau'n2 glep.
Swn crio.
A thawelwch eto.
Mae'n1 agor ei llygaid. Yng ngwyll yr ystafell ni ( )wêl ddim ond cysgodion o wely, o gwpwrdd, o fwrdd ac o gadair. Ffurfiau disylwedd, rhithiau annnelwig, amlinellau o ( )wacter du yn1 datgan eu presonoldeb, ond heb fod yno. Cysgodion fel tonnau Afon Seine, yn1 lapio'r ystafell mewn amdo du.
Yn2 sydyn, mae pelydryn gwan o heulwen ola'r dydd yn1 brwydro'i ffordd rhwng to a simdde uchel i mewn drwy lwch y ffenest. Mae defnynnau bach o lwch yn1 hofran yn ei ( )afael. Oeda'n2 simsan ar ei gwegil a'i gyffyrddiad mor gynnes ac mor ysgafn â chusan. Goleua'i hwyneb am ennyd fer.
Gwena.
Dim ond am ennyd. Diflanna'i gwên yr un mor sydyn â phelydryn gwan o heulwen ola'r dydd sy'n1 suddo'n2 goch y1 tu ôl i do a simdde uchel...Y1 tu hwnt i ffenest yn2 llawn llwch.