Traed Mewn Cyffion - Kate Roberts (Llandyssul: Gomer , 1992 [1936])

treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)

testunau eraill / other texts


Edrychai ar y pentref draw yn1 gorwedd yn llonyddwch y prynhawn. I fyny ar y chwith yr1 oedd y chwarel a'i1 thomen yn1 estyn ei1 phig i lawr y mynydd fel neidr. O bell, edrychai'r cerrig rwbel yn2 ddu, a disgleirient yng ngoleuni'r haul.

Dyma'r chwarel lle y1 lladdwyd tad Ifan. Pwy, tybed, a1 ( )wagiodd y wagen rwbel gyntaf o dan y domen acw? A phwy a1 fyddai yr olaf i daflu ei lwyth rwbel o'i1 thop? .... Deuai llef drist oen o bell, a gweiddi gwyddau ar fferm yn1 ymyl. Yr1 oedd rhywbeth prudd yn yr holl ( )olygfa, y chwarel, y pentref a'r mynydd oedd ynghlwm wrth ei gilydd.