Wythnos o Hydref - Selyf Roberts (Dinbych: Gwasg Gee, 1965: 220)

treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)

testunau eraill / other texts


Prynhawn hyfryd oedd hwnnw er gwaethaf  fod cymylau wedi codi o  du'r môr erbyn tua  thri o'r  gloch. Yr1 oedd y siarad yn2  ddibaid, a'r chwerthin yn2  fynych, a  chyn iddynt sylweddoli yr1 oeddynt  dros  bymtheng millter o  Fae Menai ac yn1 dal i  deithio'n2  gyson ond di-frys ar hyd ffyrdd gwlad.

Gwyddai'r Cyrnol am  ryw ffermdy a1 hwyliai  de i  bobl yn yr haf, meddai ef.

"Dwn i  ddim a1  fydd yr hen (  )wraig yn1 gwneud hynny'r adeg hon o'r  flwyddyn ond  fyddwn ni  ddim gwaeth o  dreio".

Ond pan  gyraeddasant y ffermdy -- ac yr1 oedd hwnnw ynddo'i hun yn2 (  )werth i'w (  )weld gan mor hynafol ydoedd a  chan mor  drwsiadus (  )lan y cedwid ef -- gwelodd Elwyn ac Alwen  fod Cyrnol Graham wedi gwneud argraff ar y ffermwr o'r blaen y1 bu ef yno. Nid oedd dim yn2 (  )ormod o  drafferth ganddynt, a'r  gamp  fwyaf ydoedd perswadio Mrs. Edwards nad oedd arnynt  ddim eisiau llond plat o ham cartre' a salad a  theisen afalau a  chacen  gyraints.

Wrth yfed ei  gwpanaid te olaf astudiodd Elwyn  fap o'r  fro -- yr1 oedd Mr. Edwards wedi fframio un yn2 ymyl y drws yn2 arbennig ar  gyfer ymwelwyr -- a  chyda  chyfarwyddyd a gwybodaeth  leol yr hen (  )wr dewisodd ffordd diethr i  ddychwelyd i  Fae Menai.

"Ond mi  fydd yn2 rhaid i'r dreifar (  )wneud yn2 union fel y1 byddai'n1 dweud, neu mi awn ar  goll," meddai.

Teithiasant trwy  goedydd am  beth ffordd ac yna dringasant i  ddilyn ffordd  fynydd a(1)'u dygent hyd ymyl cors eang a1 ymddangosai dan yr wybren  gymylog yn2 (  )wyllt ac iasol. Eithr yr1 oedd rhyw  brydferthwch diethr yn yr (  )olygfa er hynny, a rhyw  ddylanwad rhyfedd a1  roes  daw ar y sgwrsio am  beth amser.



nodiadau:

a1
rh. (+tm.)  that (before noun clauses),
y / yr / 'r
a.c.   the; feminine nouns take a soft mutation (tm.) after y; translates as of the between nouns
yr before vowels and h; 'r after vowels
y1
gp.  pre-verbal particle introducing present tense of bod (mae) or a noun clause
yn1 / 'n1
gn.  before verbs (no mutation)
yn2 / 'n2
(+tm.)  gn.  before adjectives, adverbs and nouns
yr1
.  see y.