treigladau / mutations
Dau o'r gloch y bore ydoedd ar fore cannaid golau leuad yn nechrau mis Mai, ac o dan y lleuad edrychai'r ( )wlad fel tir lledrith. Ar binaclau pellaf mynyddoedd Rhewyn yr oedd caenen o eira'r gaeaf heb gilio. Tros y fro i gyd, i fyny Cwm Peilliad a Chwm Gwynfor, a'r gwastadeddau a'r bryniau pell hyd y gorwelion eithaf, ymddangosai gwrychoedd y caeau cymesur fel rhyw rwyd enfawr wedi ei thaflu tros y ( )wlad, a chymaint oedd swyn y caethiwed iddi oni orffwysai hithau'n llonydd a bodlon ynddi.
(frâm ar wahan / separate frame)
testunau eraill /
other texts