Mai Bywyd ac nid yr Angau yw Brenin Braw.
Cyfaill - Er Cof - gan T H Parry-Williams - Clicia/Click ->
1a: Fe ofnai ef Angau cyn gwybod beth ydoedd byw;
1b: Fe welai goed y gymdogaeth i gyd yn yw.
2a: Yn anterth ei hoedl, er nad ydoedd arno nam,
2b: Fe dyngai fod Angau dan gel yn gwylio'i gam.
3a: Fe giliai rhag Angau; fe'i gwnaeth yn fwgan tra fu;
3b: Fe'i ffroenai mhob ffridd; fe'i llygadai ymysg y llu.
4a: Ond pan gyfarfu efe ag Angau ar goedd
4b: Wyneb yn wyneb, megis, ni wyddai pwy oedd
5a: Ni allodd adnabod amnaid Angau Gawr,
5b: Na chanfod bwgandod chwaith, na synhwyro sawr.
6a: Nid hwn oedd y Brenin Dychryniadau a gaed
6b: O hyd yn ysgytio'r galon nes gwelwi'r gwaed;
7a: Oherwydd ni wnaeth yr Angau hwn ddim byd
7b: Ond cymryd yr ofn a'r einioes i ffwrdd yr un pryd,
8a: A rhoi ar ddeall i ddeiliaid byd-y-ddaw
8b: *Mai Bywyd ac nid yr Angau yw Brenin Braw.