treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)
testunau eraill /
other texts
Ni ( _ )all neb ond y sawl a1 deimlodd y ( _ )wasgfa fynegi teimladau y chwarelwyr ar nos ( _ )Wener tâl. Nid oes neb ond y chwarelwyr eu hunan a1 wyr beth yw sefyll wrth fenestr y swyddfa ar noswaith oer i ddisgwyl i'r stiward ( _ )alw ei enw. Wrth edrych ar eu hwynebau curiedig, yn2 llawn olion chwys - gwyr y chwarelwr beth yw chwysu pan rewa popeth o'i gwmpas - buasai un yn1 meddwl eu bod yno i'w diennyddio ac nid i dderbyn eu cyflogau. Fel y1 cryna eu dwylo pan dderbyniant eu "pres," ac fel y1 cyfrifant hwy unwaith, dwywaith, tairgwaith! Dim ond tair punt am fis, a theulu o chwech neu wyth i'w cadw! Ond dyna ddigon. Y1 mae gennyf stori i'w adrodd.
Oddeutu wyth mlynedd yn2 ôl, yr1 oedd yn2 amser caled odiaeth yn y chwarel, ac yng ngeiriau y chwarelwyr, nid oedd yn2 ( _ )werth i neb gario ei fwyd yno. Yr oedd y fasnach lechi yn2 slac ryfeddol; a rhegai y stiward y dynion bob awr o'r dydd nes oedd mor floesg gyda'r nos â chi wedi cael annwyd.
Ni hoffai neb cael ei regi; a phob dydd codai chwarelwr ei arfau i fynny, gafaelai yn y sach a1 ( _ )wasanaethai fel clustog iddo, a chyda'i faich ar ei ysgwydd, gadawai y sied, ac ni ( _ )welid ef yno mwy.
"Digon o ( _ )waith yn y Sowth," meddai, "a digon o arian am ei ( _ )wneud."
Ac i'r y Sowth yr1 ai.
Pwy a1 ( _ )welodd y chwarelwr yn1 gadael ei gartref? Onid yw yn2 ( _ )olygfa bruddaidd? Dacw ef yn1 cychwyn â dagrau yn ei lygaid, a gwên fel gwên yr haul ar yr eira ar ei wyneb. Ceisia ( _ )wenu er mwyn ei fam, ei ( _ )wraig, neu ei chwaer. Duw a1 ( _ )wyr nad oes ysbryd gwenu yn ei galon. Yn ei law mae bocs tun bychan na fu allan o'r ystafell ( _ )wely erioed o'r blaen. Ynddo mae ychydig goleri, cyn ( _ )wynned â'r eira, hanner dwsin o barau hosanau wedi eu troedio ganwaith, pedwar crys wedi eu clytio yn2 ( _ )ofalus, darnau o frethyn a gwlanen ac ychydig edau o'u cwmpas a nodwydd ddur wedi ei phlannu ynddynt. Dyna'r cwbl. Na, arhoswch. Yn y gwaelod mae Beibl bychan, llyfr hymnau, a gweithiau Ceiriog, Islwyn, neu Mynyddog.
Ond yr1 wyf yn1 crwydro eto.
nodiadau: