"Y  Delyn Aur" - Ffarwel Weledig,  Groesaw Anweledig  Bethau, Neu  Rai Hymnau o  Fawl i  Dduw a'r Oen
Williams Williams Pantycelyn (Caerfyrddin, 1763 [1811: Hymn CCCLXXXIV])

treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)

testunau eraill / other texts


1
Rwi'n1 dy  garu er na's gwelais;
Mae dy  gariad fel y tân,
Ni's gall nwydau cryfa f' natur
Sefyll mymryn bach o'th fla'n;
Fflam angerddol, &c.
Ryw  bryd  ddifa'm sorod yw.


2
Pell uwch geiriau, pell uwch deall,
Pell uwch rheswm goreu'r byd,
Yw cyrhaeddyd perffaith  gariad,
Pan ennyno yn fy  mryd;
Nid oes tebyg, &c.
Gras o  fewn y nef ei hun.


3
Rhaid im' ( _ )adael ei  ddirgelion,
Hyfryd heb eu traethu  gyd,
Am na's gallu, maent mor  ddwfn
Nes im'  dreiddio maes o'r byd;
Trag'wyddoldeb, &c.
Mi  gaf ( _ )wel'd ei ( _ )wreiddiau maes.


4
Mi  gaf ieithoedd, mi  gaf  ddeall,
Mi  gaf yno  berffaith ( _ )ras,
I  gael ffeindio hen  ddyfnderoedd
Pen Calfaria yn2 ( _ )well i ma's;
Tyred ( _ )wyntoedd, &c.
I  gael chwythu'r nos i  bant.


5
Yno caf fi  ddweud yr hanes
'P'odd y1 dringodd eiddil gwan,
Trwy afonydd, a  thros  greigydd
Dyrus anail serth i'r  lan;
Iesu ei hunan, &c.
 Gaiff y clod trwy eitha'r nef.


6
Nid oes yno  ddiwedd canu,
Nid oes yno  ddiwedd clod,
Nid oes yno  ddiwedd cofio
Pob cystuddiau ag  fu'n1 bod;
Byth ni  dderfydd, &c.
Canmawl Duw yn  nhy fy  Nhad.


7
Dechreu canu, dechreu canmawl
(Yn  mhen mil o  filoedd maith)
Iesu bydd y pererinion,
Hyfryd draw ar  ben y  daith;
Ni  chair diwedd, &c.
 Fyth ar swn y  delyn aur.





nodiadau:

a1
gp.  pre-verbal particle introducing an independent clause
y1
gp.  pre-verbal particle introducing present tense of bod (mae) or a noun clause
y2 / 'r2
gp. relative particle connected to pronomenalia (abstract pronouns).
yn1 / 'n1
gn.  before verbs (no mutation)
yn2 / 'n2
(+tm.)  gn.  before adjectives, adverbs and nouns