Pam yr1 wyf yn2 Grynwr? (Why am I a Quaker?) - Waldo Williams (Pamphlet: 1956)

treigladau / mutations
(frâm ar wahan / separate frame)

testunau eraill / other texts


Gwell imi ddechrau trwy sôn am ddau beth sydd gennym sydd yn1 apelio'n fawr ataf, un yn2 athrawiaeth, a'r llall yn2 ymarfer: athrawiaeth fawr y Crynwyr, y Goleuni oddimewn, a'r ymarfer o ddistawrwydd yn y cwrdd addoli. Ond nid yw'r pethau hyn yn2 neilltuol i'r Crynwyr. Ystyrir ni'n2 enwad neilltuol iawn, ond credwn yn2 gadarn fod y tebygrwydd rhwng dynion yn2 llawer mwy na'r gwahaniaeth. Dyma sail yr heddychiaeth sydd yn2 gryf yn ein plith, a'n3 gwaith cymdeithasol. A mynegir ef yng ngeiriau George Fox: "Cerddwch dros y byd yn2 siriol, gan gyfarch yr hyn sydd o Dduw ym mhob dyn."